Tudalen:Gwaith S.R.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cilio wnaeth y tew gysgodau,
Gwawriodd hyfryd oleu ddydd;
Nid oes eisiau gwaedlyd ebyrth,
Thuser aur, nac allor bridd:
Daeth y Gogoneddus Sylwedd,
Daeth yr addawedig Had,
Cododd disglaer Haul Cyfiawnder,
Sain y durtur sydd trwy'r wlad

Mwy ni cheisir urddau Aaron,
Olew pêr, na brasder ŵyn;
Gwisgo'r Urim ar ei ddwyfron
Yn y nef mae'r Iesu mwyn;
Wrth yr allor aur mae'n gweini,
Clywir adsain clychau hedd;
Yn Ei law mae'r aur deyrnwialen,
Wrth Ei glun mae'r dwyfol gledd.

Hoeliodd ddeddf yr ordinhadau,
Oedd i'n herbyn, wrth Ei groes,
Gan yspeilio'r awdurdodau
Pan yn dioddef angau loes;
Cododd faner wen trugaredd,
Drylliodd gedyrn byrth y bedd,
Seiniodd jubil lawn i'r caethion,
Ac arlwy odd radlawn wledd.

Agoriadau y llywodraeth
Wisgwyd ar Ei ysgwydd Ef,
Rhoddwyd iddo bob awdurdod
Ar y ddaer ac yn y nef;
Marchog mae yng ngherbyd cariad,
Troi o'i gylch mae engyl nef;
Sigla cedyrn byrth y fagddu
Hyd eu sail wrth rym ei lef.