Tudalen:Gwaith S.R.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Croesaw iddo wisgo'r goron,
Aed Ei enw dros y byd;
Plyged pawb i'w fwyn awdurdod
Am Ei gymod Ef mewn pryd;
Boed i'r euog tlawd ymguddio
Dan Ei dawel gysgod Ef,
Boed i'r gwannaf ffyddiog bwyso
Ar Ei fraich alluog gref.

Mewn gogoniant dirfawr eto,
Heb y groes a'r goron ddrain,
Disgyn gyda myrdd myrddiynau,
Llawen floedd, ac uchel sain;
Cwyd Ei orsedd, egyr lyfrau,
Sigla seiliau dyfnha’r bedd,
Lleda'r wyntyll, hwylia'r clorian,
Ysgwyd fry Ei farnol gledd.

Pan y ffy y nefoedd heibio,
Pan y byddo'r ddaer yn dân,
A'r holl anwir fyd mewn cyffro,
A llu'r saint yn seinio cân;
Pan y todda'r euog ymaith
Dan lewygon bythol fraw,
Boed i ni gael tawel orffwys
Ar ei dirion ddeheu law.


BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL BLYNYDDOEDD

Efengyl oludog! Angyles trugaredd,
Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd;
Ym mantell dy harddwch, ar gerbyd dy haeled,
Dos rhagot nes llenwi y byd â dy hedd;