Tudalen:Gwaith S.R.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CILHAUL UCHAF

Ychydig flynyddoedd yn ôl yr oedd ffarmwr ymdrechgar o'r enw John Careful, a'i wraig ddiwyd Jane Careful, yn byw yn Nghilhaul Uchaf, yn nhalaeth Gwynedd. Yr oedd iddynt chwech o blant-tri mab a thair merch-oll wedi tyfu i fyny yn bobl ieuainc iachus, cryfion, bywiog, gweithgar a gofalus; ac yr oeddynt yn diwyd serchog gynorthwyo eu rhieni yn holl wasanaeth y ffarm. Yr oedd y rhan fwyaf o'u tyddyn yn dir gwlyb, oer, melyn, cleiog, a phur dlawd. Yr oll a fedrent wneyd mewn cylch blwyddyn o holl gynnyrch y ffarm oedd oddeutu £185; tra yr oedd y talion-rhent, degwm, trethoedd, cyflogau, gwrteithiau, porfa gaeaf, &c., &c., yn llawn £220. Ar ôl llawer o lafur, ac o ludded, ac o bryder, ac ar ôl rhes o ffeiriau pur farw a digalon, darfu i John Careful un bore rhent anturio crybwyll wrth y steward nad oedd dim modd iddo yn wir wneuthur y talion o'r ffarm. Edrychodd y steward yn ddu ac yn llym arno, ac atebodd yn bur sychlyd y dylai wneyd mwy o'r ffarm: ei fod ef wedi darllen rywbryd yn ddiweddar, mewn rhyw bapyr newydd, am ryw ffarmwr yn rhywle, ag oedd yn talu llawer mwy o rent nag oedd ef yn dalu, a hynny am ffarm lai na'i ffarm ef; ac ychwanegodd y byddai yn hawdd iddo osod Cilhaul Uchaf am rent uwch na'r rhent presennol. Wrth glywed y steward yn siarad mor graslyd, ac wrth ei weled