Tudalen:Gwaith S.R.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn edrych mor gibog, dywedodd John Careful dan grynu, a'i wefusau yn gwynnu, ei fod ef a'i deulu yn awyddus i wneyd eu goreu; ac yna, heb yngan sill yn ychwaneg, ymgiliodd allan o'r ystafell yn wysg ei gefn, dan fowio i'r steward yn y dull gostyngeiddiaf. Parhodd geiriau cras y steward—"y dylai wneyd mwy o'r ffarm"—i seinio yn ei glustiau am hir amser wedi hynny. Yr oedd ef a'i wraig a'i blant yn awyddus iawn am wella y ffarm. Gwyddent y gellid ei gwella; ac yr oeddynt wedi meddwl ac ymddiddan llawer am gynllun i drin yn well; ond yr oeddynt yn ofni traul y drefn newydd. Beth bynnag, gan fod y steward wedi rhoddi awgrym mor gryf ac mor eglur iddynt am drin yn well, penderfynasant gynnyg yn deg am amryw welliantau: ac ar ôl cyfnerthu y wedd, a phrynu offer newyddion, a chyflogi ychwaneg o ddwylaw, darfu i'r gŵr a'r wraig a'r plant, i gyd oll yn wyth enaid, gyd-ymroi i lafurio yn ddiflino am welliantau am dros dair blynedd. Ond ar ôl gwneuthur y cyfrifiad manylaf, cawsant er eu siomedigaeth fod y draul ychwanegol tuag at welliantau yn llawn triugain punt y flwyddyn, tra nad oedd gwerth cynnyrch y gwelliantau hynny prin yn ddeugain punt y flwyddyn: ac felly eu "hennill" drwy y gwelliantau a ddirgymhellwyd arnynt gan y steward oedd colled o ugain punt yn y flwyddyn. Yr oedd y steward, a llawer o foneddigion eraill, ac amryw o'r cymydogion, yn eu canmol yn fawr iawn ac yn fwyn iawn, am drefn dda eu tyddyn; sylwent fod wyneb a chalon eu tyddyn yn glod iddynt, ac yn brydferthwch i'r gymydogaeth: ond nid oedd yr holl ganmoliaeth oeddynt yn gael ddim yn gymorth iddynt at dalu hyd yn nod