Tudalen:Gwaith S.R.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am hoelen pedol; ac felly colled o ugain punt y flwyddyn oedd y wobr gyntaf a gafodd y Farmwr Careful am ei ofal a'i ludded a'i arian gyda "gwelliantau."

Gyda bod y ffarm wedi cael ei gwella a'i threfnu yn y dull a grybwyllwyd, daeth y steward heibio yn lled fore un diwrnod yn yr haf, pan oedd yr ydau ar hedeg; ac wedi dweyd "bore da i chwi" wrth John Careful, ac wedi gwneyd wyneb rhyw hanner—stewardaidd i ofyn mewn llais dienaid am iechyd a helynt ei wraig a'i blant, dywedodd dan wenu yn bur foneddigaidd fod yn hoff iawn ganddo weled Cilhaul Uchaf mewn calon ac mewn trefn mor rhagorol; ei fod yn falch iawn o'r olwg oedd ar y tyddyn, a bod yn dda ganddo fod y gair ar led fod y prisiau braidd yn codi; a bod y seneddwyr aurhydeddus ac enwog Mr. B. a Mr. D. a Mr. Y. wedi hyfgyhoeddi yn eu bareithiau diweddar o ben Assblock y farchnadfa eu bod am gymeryd i fyny achos y ffarmwr yn y senedd newydd, a'u bod am adsefydlu treth yr ŷd a phob cynnyrch tramor; ond ychwanegai y steward mewn llais mwyn, tyner, isel, dan fân—gecian, fod cyfiawnder ag ymddiriedaeth y swydd bwysig oedd ganddo fel steward yn ei orfodi i godi mymryn—mymryn bach ar y rhent. Nis gallai ddweyd yn fanwl y bore hwnnw pa faint, ond ymrwymai y cai y codiad fod yn bur deg a rhesymol—na chai ddim bod dros bymtheg ar hugain y cant. "A gobeithio," meddai, "yr ewch rhagoch i wella eich ffarm, oblegid yn y dyddiau goleu hyn o iawnder a diwygiad, pan y mae arglwyddi tiroedd mor enwog o ran eu craffineb a'u tegwch a'u gofal, a phan y mae y stewardiaid mor hynod o