Tudalen:Gwaith S.R.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofalus ac o gydwybodol ac o deimladwy am galonogi y tenantiaid, bydd ffarmwyr ymdrechgar yn sicr o gael tâl da am eu llafur, a llog da am eu treuliau wrth wella eu tyddynnod." A dyma oedd yr ail wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei flynyddoedd o welliantau llafurus a drudfawr yn Nghilhaul Uchaf.

Cyn pen teirawr ar ôl i'r steward droi ei gefn, dacw bwtyn byr tew wynebgoch pwfflyd bolfawr o ddegymwr yn dyfod drwy y nant, ac ar draws y rhos, a thros y gwrych, a'i lyfr "counts" yn ei law, ac yn dringo i edrych dros y wal i gyfrif y gwyddau oeddynt ar y llyn, ac yna yn estyn ei ben drwy y twll oddiar ddrws cut yr hwch fagu i gyfrif ei thorllwyth diweddaf; ac wedi hynny yn galw ar John Careful ato i'w holi am nifer y defaid a'r ŵyn noson y cneifio diweddaf, ac i ofyn iddo amryw bethau eraill; a rhybuddiai y degymwr y ffarmwr i fod yn bur fanwl yn ei gyfrifon. "Oblegid," meddai, "rhaid i mi fod yn fanwl iawn y tro yma i'ch gosod chwi i lawr yn ôl eich llawn werth, oblegid y prisiad yma sydd i fod yn sylfaen i'r drefn newydd ag y mae fy meistr parchedig a dirprwywyr y degwm wedi cytuno i sefyll ati o hyn allan." A darfu i'r degymwr boliog, cyn symud o'r fan honno, ledu'i gount-book ar garreg y wal, ac â'i bwt pensil black lead ferr fawr bron ddyblu degwm Cilhaul Uchaf: a dyna oedd trydedd wobr John Careful am ei welliantau amaethyddol.

Ymhen llai na mis ar ol hynny, daeth tri o briswyr heinyf craffus yn enw y plwyf, a thros y festri fach, i edrych dros ffarm Mr. John Careful. Yr oeddynt yn siriol ac yn siaradus iawn wrth ganmol ei thriniaeth a'i threfn; a dywedent