Tudalen:Gwaith S.R.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar noson marchnad, gweithiodd Jacob ei ffordd, drwy landlord neu landlady y Queen's Head, i ystafell y steward yno, a chafodd adeg a chyfle da iawn i ddangos ei foes i'r steward, ac i adnewyddu ei gais am ffarm cyn gynted ag y gellid ei chael. Crybwyllodd y steward wrtho yn bur ddistaw, ac fel secret i'w gadw rhag pawb, fod John Careful o'r Cilhaul Uchaf yn debyg iawn o ymadael oddiyno; ac os deuai y ffarm honno yn rhydd y gwnai y tro i'r dim iddo ef ac i'w wraig newydd. Gwyddai Jacob yn burion fod Cilhaul Uchaf mewn cyflwr a threfn da dros ben; a bowiodd yn foesgar ac isel iawn wrth ddiolch i'r steward am ei awgrym caredig. Canodd y gloch yn union am botelaid o Champagne digymysg goreu; yfodd iechyd da Lord Protection a'i stewardiaid; ac yna ymgiliodd allan, gan fowio yn foneddigaidd iawn, a gadawodd y Champagne wrth ddeheulaw y steward.

Ymhen llai na mis ar ol y digwyddiad bychan yma, daeth y steward i'r gymydogaeth i gasglu ôl—ddyledion; ac anfonodd i erchi am i John Careful (er nad oedd dim ôl-ddyled arno ef) i ddyfod i'w gyfarfod ef i'r Queen's Head erbyn naw o'r gloch bore drannoeth. Brysiodd Mr Careful yno yn brydlawn, gan obeithio cael rhyw newydd da, drwy ei fod bob amser wedi gofalu am y rhent i'r diwrnod. Ar ol disgwyl yn bur hir oddeutu y drws, cafodd ei alw i mewn. Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneyd y dydd o'r blaen wrth yr Efail; fod ei rent ef yn bur resymol yn wir,—ei bod yn llawer îs na rhenti ffermydd