cymydogaethol arglwyddi eraill. Nid oedd Ffarmwr Careful wrth gychwyn mor fore tua'r Queen's Head, ac wrth chwysu yn ei frys i gyrraedd yno mewn pryd, ac wrth ddisgwyl yno ar ol hynny nes oeri braidd gormod—nid oedd ddim wedi dychymygu mai myned yno i gael ei drin a'i athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly, pan yr oedd yn agor ei glustiau a'i lygaid am ryw newydd cysurus, gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly,—ei fod ef a'i deulu wedi gwneyd eu goreu yn mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a'i wraig a'i blant yn cydymroi weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr—nad oedd byth na smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o'r fath beth yn eu ty; eu bod wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm, y cyfan oll o'r chwe' chan punt a dderbyniodd ei wraig yn gynhysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon er's blynyddau i lôg yr arian hynny gael myned i wneyd i fyny'r talion yn y blynyddau drwg presennol; ei fod wedi hoff—obeithio gallu cadw y £600 yn gyfain i'w rhannu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y £600 i gyd oll wedi myned, ac na byddai y stoc ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad. Wrth glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho,—
"Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny."
"Yn wir, syr," atebai y tenant, "rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir rhyw gyfnewidiad yn fuan."