Tudalen:Gwaith S.R.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Hwdiwch ynte," ebe y steward, "dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael Gwyl Fair."

Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y byddai yn galed iawn i'w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau; ei fod ef a'i wraig a'i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu eto am flwyddyn neu ddwy mewn gobaith am amserau gwell. Ond brysatebodd y steward yn bur sarrug,—

"Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd gennych. Gwell i chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai. Hydiwch, dyma'r notice i chwi ymadael. Rhaid i mi yn awr fyned at orchwylion eraill—bore da i chwi."

Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda chalon drom iawn; a phan oedd yn gorffen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneyd, daeth y tri mab yn annisgwyliadwy i'r tŷ. Daethant hanner awr yn gynt nag arferol, am eu bod wedi gorffen cau y gwter fawr yng ngwaelod y braenar, a galwasant heibio i'r tŷ am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall i'r ffarm. Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a'u mam. Bu tafodau pawb am ennyd yn fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod achos blinder eu rhieni. Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr oll a gymerasai le. Gwrandawsant hwythau arno yn fudsynedig; ac ar ol iddo dewi, edrychasant ar eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan gair.