Tudalen:Gwaith S.R.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O'r diwedd torrodd y tad ar y distawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg deimladau,—

"Yr oeddwn i wedi hoff—obeithio y cawswn orffen fy nyddiau yn Nghilhaul Uchaf, ac wedi breuddwydio llawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr ywen fawr a drws cefn y clochdy, lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac y peidia yr annuwiol â'i gyffro."

"Ië, ié," ebe y fam, "lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl, anw"—(ar hyn collodd y fam ei lliw—dechreuodd ei gwefusau grynu—ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd orffen ei dywediad). Wrth weled hynny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn o deimlad, naill ai teimlad o serch cynnes at ei rieni, neu ynte teimlad o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw cymysgedig, dywedodd,—

"O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna. Y maent wedi gwneyd eu gwaethaf i ni. Na hidiwch mo honynt byth mwy. Na ofnwch hwy ddim yn chwaneg. Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorffwys. Bydd yn sicr o fod allan o'u cyrraedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad gyntaf bore mawr y codi, a deuwn o hyd i'n hen gyfeillion ar darawiad llygad, a deuant hwythau hefyd o hyd i'w lle eu hun, a chesglir hwy at eu