Tudalen:Gwaith S.R.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWAITH SAMUEL ROBERTS. (S. R.)

Rhagymadrodd

Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800. Bu farw yng Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwyd ef i huno.

O'r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd ei dad, John Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,—

Symudodd John Roberts a'i deulu, tua 1806, o Dy'r Capel i ffermdy y Diosg dros yr afon ar gyfer. "Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth" oedd y Diosg; ac efe yw Cilhaul.

Daeth S. R. yn gynorthwywr i'w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu gadael Llanbrynmair,—aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i'r America.