Tudalen:Gwaith S.R.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pobl, i dderbyn yn ol yr hyn a wnaethant yma. Gwyddoch eu bod wedi creulawn lyncu i fyny yn barod eich £600 chwi. Gwyddoch ein bod ni oll wedi gweithio yn galed iawn, haf a gaeaf, drwy wynt a gwlaw, ac oerni a gwres, fore a nawn a hwyr, er eu helw hwy, a'n bod heb ennill rhyngom oll yr un swllt i ni ein hunain. Yr ydym wedi cyson dalu iddynt bob parch ac ufudd-dod yn ein gallu, ond tlawd iawn yw yr ad-dâl ydym yn gael am ein holl lafur a'n gofal. Y mae gan Tom Thrift, aradrwr y Plas Hen, £88 o'i ennill yn awr yn y Savings Bank; ond nid oes gennyf fi, er fy mod dair blynedd yn hŷn na Tom, yr un geiniog wrth gefn yn ei chadw erbyn yr amser a ddaw. Ond yr ydym ni yn gystal ein cyflwr a Robert Frugal druan. Y mae ef yn awr newydd golli yr oll ag oedd wedi ennill. Gwyddoch ei fod ef wedi bod yn fugail craff, ffyddlon, a gofalus, yn y Foelfawr am dros un mlynedd ar ddeg. Llwyddodd ei feistr i gael ganddo adael ei gyflog y naill flwyddyn ar ol y llall yn ei law ef. Addawodd y meistr ddeng waith drosodd y byddai Robert yn sicr o gael llog da am ei arian. Yr oedd rhai yn ofni braidd er's amryw fisoedd nad oedd ei feistr ddim yn gwneyd yn dda iawn yn y Foelfawr. Yr oedd yn myned yn fwyfwy shy ar ddyddiau y talion; ond nid oedd neb o'r cymydogion yn dychmygu fod ei amgylchiadau mor ddrwg. Yr oedd y steward yn ddyfnach yn secret ei helynt na neb arall, ac yn awr y mae y bailïaid newydd fod yn y Foelfawr, ac y maent wedi ysgubo ymaith i'r meistr tir bob peth oedd gan y tenant,—y stoc, a'r offer, a'r dodrefn, a'r ŷd, a'r gwair, a'r cig, a'r caws, a'r cyfan oll. Nid oes yno ddim gwerth ceiniog wedi ei adael