Tudalen:Gwaith S.R.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Robert Frugal druan ar ol holl ludded a holl ofal ei fugeiliaeth. Y mae Lord Quicksilver, y meistr tir, yn mynnu ac yn cael y ffyrling eithaf o'i rent arswydus ef; ond nid yw Robert, wedi ei holl lafur am un mlynedd ar ddeg i gynorthwyo y tenant i gasglu y rhent uchel hynny i'r lord, yn cael yr un ddimai o'i gyflog. Ac y mae y gof hefyd ag oedd wedi gweithio am ddwy flynedd i'r Foelfawr yn methu cael dim am ei waith na'i haiarn; a dywedir yn hyf ac yn uchel drwy yr holl ardal fod baili uchaf Lord Quicksilver wedi prynnu deg o ychen mwyaf y Foelfawr am hanner eu gwerth, am fod y cymydogion yn ofni cynnyg yn ei erbyn, ac am fod y rhybudd am yr ocsiwn mor fyrr, ac ain na roddid dim coel i'r prynnwr. Cyfraith yr ocsiwn wyllt sydyn yno oedd talu i lawr gyda bod y morthwyl i lawr; a chan fod y lord newydd dderbyn ei renti y diwrnod cyn hynny, nid oedd yno ddim arian parod i'w gael drwy yr holl gymydogaeth. Yn wir y mae yn ddrwg iawn gennyf dros Humphrey y Gof, a thros Robert Frugul druan. Cyfraith uffernol ydyw honno sy'n yspeilio y gweithiwr tlawd o'i ennill caled, ac o fwyd a dillad ei blant, er llenwi coffrau a seleri y gormeswyr goludog. Peidiwch, da mam, ag edrych yn ddu fel yna arnaf am anturio siarad fel hyn am y gormeswyr goludog. Gwn eich bod wedi ein dysgu o'r cryd i siarad yn wylaidd, ac i feddwl yn barchus am fawrion ein gwlad; ond y gwir ydyw y gwir, a dylid ei ddweyd ar amgylchiad fel hwn. Ac nid oes dim ond rhyw bum mis, fel y gwyddoch, er pan ddarfu i'r hen Nansi Jones, ar ol bod yn dairymaid ragorol o fedrus ac o ffyddlon yn y Ddol Hir am dros ugain mlynedd, golli pob ceiniog a enillasai yn yr un