Tudalen:Gwaith S.R.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

modd, pan y mynnodd yr hen Lady Marigold o Blas y Dyffryn, bob dimai o'i rhent afresymol hi. Beth ydyw pethau fel hyn ond lladrad noeth? Ac yr oedd y drefn lunio cyfraith dros beth fel hyn, a'i darllen dair gwaith drosodd mewn dau lys seneddol, cyn gosod sel y goron wrthi, yn rogni mor gythreulig ag a ddyfeisiodd Turpin Wyld a'i gymdeithion erioed yn nyfnder y nos, yn seler dywyllafllys cyngor ei ogof. Druan o'r hen Nansi Jones, wedi colli drwy hyn y cyfan o holl ennill ei bywyd, wedi colli drwy hyn y cyfan ydoedd wedi ofalus gynilo i'w chynnal yn ei hen ddyddiau. Ydyw, mam, y mae peth fel hyn yn orthrymder anoddefadwy. Y mae yn farbariaeth o'r fath greulonaf; ac y mae y rhai sydd yn gweinyddu y fath gyfraith yn lladron o'r dosbarth hyllaf; y maent yn lladron hyfion wyneb—haul: ac y maent yn digywilydd ymogoneddu yn nerth trais eu lladradaeth. Gellwch chwi, fy nhad, ysgwyd pen, a gwenu a synnu bob yn ail, at hyfdra fy ymadroddion; ond nid wyf yn dywedyd dim ond y gwir. Yr wyf yn dywedyd gwirionedd eglur, mewn geiriau eglur; ac y mae yn llawn bryd i rai ddweyd y gwir am bethau fel hyn yn y mannau mwyaf cyhoedd, ac yn y geiriau mwyaf eglur. Y mae synwyr cyffredin y wlad wedi bod yn rhy wylaidd o lawer, a gonestrwydd cyffredin y wlad wedi bod yn rhy ddistaw o lawer yn nghylch pethau fel hyn."

"Ond," ebe'r tad a'r fam, eu dau ar unwaith, "er mwyn popeth, John anwyl, gad yna bobl fawrion y senedd a'r gyfraith; gad i ni ystyried beth sydd i ni wneyd yn awr?"

"Beth sydd i ni wneyd?" ebe John. "Nid oes dim i ni ei wneyd ond MYNED I AMERICA. Nid ydyw