Tudalen:Gwaith S.R.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn awr ddim hanner mor dreulfawr, na hanner mor dywyll, na hanner mor beryglus, i fyned yno ag ydoedd pan aeth fy nau ewythr, a'm dwy fodryb, yno ddeugain mlynedd yn ol; a gwyddoch yn dda fel y maent hwy a'u plant wedi llwyddo. Gallwn gyhoeddi ocsiwn yn ddioed; ac ar ol talu i bawb bob ffryling o'u gofyn, bydd gennym dros ddwy ran o dair o'r cynnyrch tuag at ddechreu byw o newydd yn nyffryn bras y Missouri. Trwy drugeredd, ni raid i ni ddim eto gladael i'r ocsiwn ar ein pethau fod dan fawd y bailïaid. Cawn werthu pan y mynnom, ac fel y mynnom. Codwch eich calon, fy anwyl dad a mam; y mae grennych chwech o blant cryfion fyddant yn ffyddlon i chwi hyd angeu. Yr ydym oll gyda chwi yn awr, ac yn gwbl ryddion i ddyfod gyda chwi i America. Yr ydym yn nyddiau goreu ein nerth, wedi ein hyfforddi i lafurio. Y mae pob golwg a gobaith y gallwn wneyd yn dda yn America. Codwch eich calonnau, cawn drigo yno eto yn llawen ac yn ddiogel bob un dan ei olewydden a'i ffigysbren ei hun; ac ni chaiff yr un o honoch chwi ddioddef dim eisieu tra y bydd dim modd gennym ni i'ch cynorthwyo."

"Ond," ebe y fam, a'i llygaid yn llawn, "a wyt ti ddim yn meddwl, John, y medrem ni gael ffarm oddeutu yma, dan ryw arglwydd tir arall, yn hen wlad anwyl ein genedigaeth?"

"Nac ellir yn wir, fy anwyl fam; y mae bron yn amhosibl cael cynnyg ar ffarm o unrhyw werth, dan unrhyw feistr tir ag sy'n deall y ffordd i gefnogi ei denantiaid. Nid llawer o'r arglwyddi tir hynny sydd i'w cael yn ein gwlad ni yn awr; ac am y lleill oll, nid oes dim llawer o ddewis