Cewch chwi weled na bydd neb yn fuan i drin y tir yn yr hen wlad lethedig yma ond personiaid a beggeriaid, a mân—squires a demireps, ac uwch—stewardiaid ac îs—stewardiaid, a chlepgwn a thurncoats, a gamekeepers a bailïaid; a ffarmio ardderchog arswydus fydd yn bod yma y pryd hynny. Caiff arglwyddi tiroedd weled eu camgymeriad, a theimlo eu colled y pryd hynny, ond bydd yn rhy ddiweddar iddynt edifarhau. Ni bydd dim gobaith iddynt hwy weled diwygiad cyn eu marw. Dichon y caiff y tô ar ol y nesaf weled dyddiau gwell yn hen wlad wyllt Gwalia."
"Ond," ebe'r tad, "a fyddai ddim yn well i ni ymfudo i ryw dalaeth Brydeinisg? Dywedir fod yn awyr iachus deheubarth Affrica filiynau ar filiynau o gyfeiriau o wastad—dir bras ffrwythlawn heb neb i'w trin. A fyddai ddim yn well i ni geisio prynnu ffarm fawr dda mewn lle felly?"
"Yr wyf yn meddwl, fy nhad, na byddai. Yr wyf yn credu y buasai yn hawdd iawn prynnu ffermydd ardderchog yno pe buasid o'r dechreu yn ymddwyn yn agos i deg a boneddigaidd tuag at y cynfrodorion. Ond yn awr y mae Syr Hero Harri Aliwal a'i gydswyddwyr mawrfrydig a gwronaidd, drwy gyfarwyddyd a than awdurdod swyddfa llys uchel y taleithiau tramor, wedi poeni a dirmygu a gormesu cynfrodorion y parthau dymunol hynny nes eu gyrru yn wallgof gynddeiriog; ac yr ydys yn benderfynol i'w llwyr ddiwreiddio o'r tir, a'u hymlid i ddinistr bythol cyn gynted ag y byddo bosibl; ac y mae swyddwyr Prydain wedi chwythu un o wageni mwyaf y brodorion yn yfflon gyrbibion er dangos fod ganddynt ddigon o bowdr i ddryllio pob peth yno o'u blaen."