Tudalen:Gwaith S.R.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wel," ebe'r tad eilwaith, "pe bai ni yn gwneyd i fyny ein meddyliau i fyned i America, a fyddai ddim yn well i ni aros ychydig i edrych beth a ddaw?"

"Na, yn wir, yr wyf yn meddwl mai colled fyddai hynny; ac y byddai yn llawer gwell i ni baratoi i fyned ar unwaith. Y mae yn wir y gallem ni droi yn union y weirglodd fawr dan y tŷ, a'r borfa hir dan y'sgubor bellaf, i wenith; ond gwnai hynny lawer mwy o ddrwg i'r tenant newydd nag a wnai o les i ni; a byddai yn well i ni ymadael heb fod dim lle ganddynt i ddweyd ein bod ni wedi cymeryd mantais oddiwrth unrhyw gytundeb llac penagored i wneyd dim tebyg i dro bach felly. Yr ydym ni wedi eu gwasanaethu am dymor hir yn onest ac yn anrhydeddus, ac ni hoffwn mewn un modd i'r un tro bach felly lychwino ein hymddygiad wrth ymadael â hwy."

"Yr wyt yn hollol right, John," ebe y tad; "ni fynnwn innau er dim redeg y ffarm, na'i drygu mewn un modd, fel ag i golledu ein dilynwr, pwy bynag fyddo,—oblegid" * * * * *

Ar ganol yr ymddiddan yma, daeth Foulk Edward, yr under—steward, i'r tŷ i ofyn i John a'i frodyr ddyfod gydag ef yn union deg a'u harfau cau a'u menyg i drwsio gwrych y nursery.

Ymhen rhyw dair wythnos ar ol hyn, pan ydoedd Squire Speedwell yn gyrru yn lled fore ar draws Ffridd Hir Cihaul Uchaf, goddiweddwyd ef gan ruthr trwm o eirlaw, a charlamodd ei oreu am gysgod at ysgubor uchaf Ffarmwr Careful. Yr oedd y ffarmwr yn digwydd bod yno y pryd hynny yn trwsio ei ôg fawr, ag oedd wedi cael ei thorri wrth gael ei llusgo yn erbyn dannedd, neu