Tudalen:Gwaith S.R.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno'n ol Awst 30, 1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dŷ ei alltudiaeth,—Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee. Cafodd ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit Dickens. Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw'r ymdrech mewn gwlad anial. A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau. Teimlai fod y ddwy ochr i'w beio, ac mai dyledswydd y Gogledd oedd talu pris rhyddhad y caethion i wyr y De.

O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu'r tri brawd byw yn yr un cartref yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i'r un fynwent.

Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru. Bu ef a'i frodyr mewn llu o ddadleuon,—y mae y gornestwyr oll wedi tewi erbyn hyn,—a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad. Bu ei Gronicl yn foddion addysg i filoedd. Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i werin yn erbyn gorthrwm o bob math. Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a'i frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan Jones.

Wele ddwy ran nodweddiadol o'i waith. Bu y Caniadau yn hynod boblogaidd; y teulu yn Llanbrynmair yw'r "Teulu Dedwydd." Hwy hefyd yw teulu "Cilhaul," ac y maent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd eto.

OWEN EDWARDS.

Llanuwchllyn,

Awst 1, 1906.