Tudalen:Gwaith S.R.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw Mrs. Careful a chwithau ddim yn meddwl myned dros y môr i'r America yn eich oed chwi."

"Ydym, yn wir, syr, ac ni awn hefyd os bydd ein plant yn myned."

"Na, na, Mr. Careful bach, ail ystyriwch y peth—gwyliwch rhag y fath helbul, a pherswadiwch eich meibion i beidio gadael gwlad eu genedigaeth. Goddefwch i mi gael cyfle i siarad â'ch meistr tir yn nghylch y peth. Caf adeg yn bur fuan. Aroswch chwi—; gadewch i ni weled—; gwrandewch yn awr—. Y mae eich meistr tir i fod yn Hunt Fawr C * * * yr wythnos nesaf. Deuwch yno; a byddwch yn sicr o ddyfod yno; a deuwch yno yn fore: mynnaf fi gyfle i chwi gael ei weled a siarad ag ef, a chawn glywed beth a ddywed."

"Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr, am eich ewyllys da, a'ch cyngor caredig. Yr wyf yn teimlo yn bur isel a hiraethlawn wrth feddwl am fyned o fy hen gartref a'm hen wlad, ond yr wyf yn ofni mai felly y bydd. Y mae y plant yn dynn iawn am fyned, gan ein bod wedi cael y fath gam a'r fath amharch—y mae yn rhy bell i feddwl am wneyd dim pen yn awr. O'r braidd y gwrandawai y plant yn awr ar unrhyw gyngiad i aros yma. Yr ydys wedi ymddwyn tuag atom yn groes i bob cyfiawnder. Y mae yn amlwg fod y steward a'i fryd yn sefydlog ar gael ein lle; ac y mae ef a'i denlu yn rhai pur gwmpasog a chyfrwys, ac yn foddlon i wneuthur pob peth et cael eu cynllun i ben."

"Wel, wel, beth bynnag am hynny, gofalwch chwi am fod wrth Hotel C * * * erbyn hanner awr wedi wyth fore dydd yr Hunt. Y mae rhuthr y gawod yn awr drosodd; mi âf fi, os gwelwch yn