Tudalen:Gwaith S.R.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goreu. Nid wyf yn meddwl nad allant hwy gamgymeryd fel pobl eraill; ond yr wyf yn credu eu bod yn bryderus ac yn awyddus ac yn llafurus ac yn ddiwyd ac yn ystyriol i wneyd yr oll ag a allant yn y modd goreu; ac nid wyf yn hoffi ymyrryd â'u trefniadau; ond yn wir yr wyf yn dwys deimlo dros fy nhenantiaid tlodion ymdrechgar yn y blynyddoedd isel hyn. Y mae dyddiau treth yr ŷd, dyddiau deddfau amddiffyniad eu marchnad hwy, dyddiau prisiau adeg fyw y rhyfeloedd, wedi hen fyned heibio. Y mae'n debyg gennyf ei bod yn bur ddrwg er's tro yn awr ar denantiaid; ac yr wyf yn ofni yn wir, John Careful, eich bod chwi wedi cael eich gwasgu, a gobeithio yr wyf y gwelaf fy ffordd yn oleu ac yn rhydd i mi eich cynorthwyo chwi yn y bwlch yma. Ond dywedwch i mi, John, a ydych chwi ddim yn meddwl y gallai rhai o'r tenantiaid wneyd mwy o'u ffermydd nag y maent yn ei wneyd?"

"Ydwyf, my lord, yr wyf yn meddwl y gallent, ond iddynt gael cynorthwy a chefnogiad ac addysg; ond os rhoddwch chwi bedwar can pwys ar ysgwydd dyn nad all gario ond tri chan pwys, yr ydych yn sicr o'i wneyd bob yn dipyn yn anewyllysgar ac yn analluog i gario dau gan pwys. Os gorfodwch chwi ddyn i redeg triugain milldir y dydd, pan na ddylai redeg ond deugain byddwch yn sicr cyn hir o'i redeg i'r pen. Y mae llawer o ffarmwyr yn awr wedi eu gwasgu mor isel fel nad oes ganddynt ddim calon na nerth i gynnyg at orchwylion ag y buasent dan amgylchiadau mwy cefnog yn sicr o'u cyflawni. Peth eithaf priodol—ïe, peth da ragorol, my lord, fyddai i'ch stewardiaid trymion llymion chwi ysbarduno tenantiaid a gweithwyr cysglyd, dioglyd