Tudalen:Gwaith S.R.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhodianllyd, clebrog; ac yn wir yr wyf yn hoffi o'm calon gweled rhai swrth a segur felly yn ei chael hi hyd adref; ond ar ol ei rhoi hi yn ddiarbed i'r rhai afler a marwaidd, carwn yn fawr weled eich steward mawr chwi, yn union ar ol derbyn y rhenti, yn galw y rhai diwyd ac ymdrechgar o'i ddeutu i square yr Hotel, a charwn ei weled yn eu canol, fel pregethwr'Senters, yn dringo carreg yr Horse—block, i areithio er canmol ac er cefnogi eu gofal a'u llafur. Carwn ei weled yn sefyll yn syth ar ben hen garreg yr Horse—block; ac ar ol rhyddhau a glanhau ei wddf, a thynnu ei gadach allan i sychu ei wyneb a'i wefus, hoffwn ei weled yn estyn ei law am osteg a gwrandawiad, a'i glywed yn areithio yn debyg i hyn:—

"'Fy hoff gyfeillion,—Yr wyf yn eich galw yn gyfeillion, oblegid yr wyf fi yn gyfaill i chwi, ac yr wyf yn dymuno parhau yn gyfaill i chwi; ac y mae o bwys mawr i ni fod yn gyfeillion. Y mae eich meistr tir urddasol a haelfrydig wedi erchi i mi hysbysu i chwi ei fod ef yn dymuno eich ffyniant a'ch cysur—ei fod yn dymuno i chwi wneyd yn dda, ac edrych yn dda—ei fod yn dymuno i chwi gadw offer hwsmonaeth da, a stoc dda; a'i fod am i chwi gael pantry llawn a phwrs llawn, a'i fod am i chwi allu sparin arian bob blwyddyn. Y mae yn beth hollol deg a gweddus i chwi gael rhywfaint o gyflog am eich gofal a'ch lludded, a rhywfaint o log am yr arian sydd gennych yn nodrefniad a stociad eich ffermydd; ond ar yr amserau drwg a dyryslyd hyn, dylech fod yn foddlon ar dalion cymedrol, eto dylai pob un o honoch gynilo ychydig bob blwyddyn, os na bydd rhyw dreuliau teuluaidd anarferol yn lluddias