Tudalen:Gwaith S.R.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny. Dylech ymdrechu cynilo ychydig bob blwyddyn erbyn angen a methiant y dyddiau a ddaw. Ewyllys arbennig eich meistr tir ydyw i chwi gael pob anogaeth a chefnogiad. Byddwch yn ddiwyd a gofalus. Gochelwch bob difrod a diogi. Astudiwch eich cynlluniau yn fanylaidd. Cyn dechreu ar unrhyw orchwyl, eisteddwch yn gyntaf i fwrw y draul. Cedwch eich cyfrifon yn llawn ac yn eglur. Ymgedwch gartref hyd y gellwch. Telwch eich ffordd yn gyflawn yn mhob man wrth fyned yn mlaen. Gochelwch ddechreu rhedeg i ddyled. Na phrynnwch byth ar y coel. Gochelwch arfer benthyca arian na dim arall. Cedwch eich buarthau yn gryno, eich cloddiau yn lân, eich cwterydd yn agored, eich gwrychoedd yn gyfain, eich ffyrdd yn gelyd, eich llwybrau yn sychion, eich tô yn ddiddos, a'ch holl adeiladau mewn trwsiad cyfaddas. Colled i chwi, yn gystal ag i'ch meistr, fyddai i chwi beidio gwneyd hynny. Gwn am ddwy neu dair o ysguboriau lle y cafodd tunelli o wair ei ddrygu y gaeaf diweddaf am fod y tô yn gollwng defni. Naw mlynedd yn ol, darfu i'ch arglwydd tir fyned i draul fawr i wneuthur ffordd newydd drwy Glyn y Bedw Gleision. Bu bron iawn i mi gorsio mewn mwy nag un man ar y ffordd honno yn mis Mawrth diweddaf. Nid wyf yn meddwl i neb drwsio dim arni, nac ar ei phyllau, nac ar ei ffosydd, nac ar ei routs, nac ar y cloddiau o'i hamgylch, er y dydd y cafodd ei gorffen. Nis gwn yn sicr ar bwy y mae bai mwyaf yr esgeulusdod, pa un ai ar arolygwyr ffyrdd y dre ddegwm ai ar denantiaid yr ardal; ond yr wyf yn sicr pe buasai eich meistr tir yn dyfod ar hyd—ddi yn y Gwanwyn diweddaf, a phe buasai yn gweled ôl