Tudalen:Gwaith S.R.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu, mewn geiriau eraill, er atal colli nodd y rhinwedd o'r tail, yr hyn yw ei nerth fel gwrtaith. Gwelais ddoe, wrth fyned heibio, amryw domennydd yn bur wasgarog, ar dapiau moelion, llechweddog, digysgod, heb fod yn agos mor gryno ac mor amddiffynedig ag y buasai yn hawdd iddynt fod. Yr oedd holl domennydd yr hen Farmwr Clout ar lethr craig, ar fin y nant; ac yr oedd eu brasder goreu yn llifo ymaith i nychu y brithylliaid oedd yn y llyn du oddidanynt: ac yr oedd pistyll trystfawr Ffarmwr Careless yn gwyllt—ffrydio ar draws buarth y tŷ, a thrwy fuarth yr ysgubor, a thros ochr yr ydlan, ac i lawr dros y ffordd i'r afon. Y mae y fferyllwyr craffaf yn dysgu i ni fod llawer iawn o nerth gwrteithiau cartrefol ein gwlad ni yn cael ei golli trwy fod y tomennydd yn cael eu gadael yn agored i'r tês ac i'r tymhestloedd. Dyfal astudiwch bob cynllun a osodir ger eich bron er ysgoi y colledion hynny. Y mae yr hen dai, a'r hen ysguboriau, ar lawer tyddyn wedi cael eu hadeiladu yn y mannau mwyaf anfanteisiol. Nid eich bai chwi oedd hynny. Gwn fod lle a dull adeiladau rhai ffermydd go fychain yn achosi colled o dros ugain punt yn y flwyddyn. Er pob peth astudiwch a chwiliwch am ryw foddion er atal i rinwedd eich tomennydd gael ei sugno gan y tês i'r wybren, na chael ei olchi gan y tywydd i'r môr. Gwn am amryw hen ffarmwyr a wnaethant lawer o arian yn eu dydd, ac nid wyf yn gwybod eu bod yn enwog am ddim ond am ruglo y buarthau, a chludo y cyfan i'r domen er ei mwyhau, ac am ei chadw yn gryno er ei hamddiffyn. Gwnewch eich goreu ymhob modd i frashau a chynyddu eich gwrtaith cartrefol. Cedwch oriau rheolaidd,