Tudalen:Gwaith S.R.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ginio. Ni gawn ar ol cinio yfed iechyd da ein brenhines a'ch meistr tir; ac yna ymwasgarwn bob un i'w gartref."

"Aros, John, aros; yr wyt ti yn awr yn pregethu dyledswydd i dy uwchradd, a hynny mewn dull pur gyfrwys. Yr wyf wrth dy wrando wedi colli adeg i weled cychwyniad y llwynog; yr wyf eisus yn rhy ddiweddar, ac mi gollaf hynny o sport."

"Yr wyf yn deisyf eich pardwn, my lord; yr oeddwn yn rhy ddifeddwl wrth gymeryd eich amser chwi felly; ond yn wir, ni buaswn i byth yn dweyd cymaint oni buasai eich bod chwi yn gwenu mor isel ac mor garedig wrth wrando. Mi âf fi adref gynted ag y gallaf bellach."

"Aros, John, aros—paid a myned yn union eto. Yr wyf fi yn hoffi clywed hen denant fel tydi yn dweyd ei feddwl a'i brofidd yn rhydd ac yn eglur. Ychydig iawn yn wir wyf fi yn hidio yn awr am golli rhyw dipyn o sport ac o lafur yr hela llwynog. Nid oes gennyf fi yn awr ddim cymaint o flys at bethau felly ag a fu gennyf unwaith; ac yn wir yr wyf yn ofni ein bod ni ar ddyddiau hela fel hyn yn gwneyd cryn niwaid i borfeydd a gwrychoedd a chaeau ŷd ein tenantiaid. Y mae ein mintai heddyw rhwng cwn a meirch a dynion yn un bur fawr. Yr wyf yn ofni fod ein blys ni am sport yn costio yn lled ddrud iddynt hwy. Yr ydym, yn gyntaf, yn diygu eu meusydd hwy ar ddyddiau ein helwriaeth. Yn ail, eu gwellt a'u hegin a'u hŷd hwy sydd yn porthi ac yn pesgi ein cwningod a'n hysgyfarnogod a'n hadar tewion ni. Yn drydydd, y maent hwy yn lled fynych yn gorfod lletya a byrddio ein milgwn a'n bytheuaid ieuainc ni, pan y bydd tymor sport yr hela