Tudalen:Gwaith S.R.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drosodd. Ac yn bedwerydd, os digwydd iddynt hwy rywdro, yn rhyw ddull, ddyfod ar draws petrisen, neu gyffologyn, neu gyw pheasant, neu gwningen, neu ysgyfarnog, dyna, hwy ar unwaith wedi ymddyrysu yn rhwydau ein deddfau helwfiaeth ni; ac wrth ymwingo i geisio dianc yn rhydd, y maent y rhan amlaf yn colli eu tymherau, ac wedi hynny yn colli llywodraeth eu tafodau, ac bob yn dipyn ar ol hynny yn colli eu ffermydd. Atolwg, John, a fedri di ddweyd i mi pa faint o gost i denant ydyw cadw bytheuad neu filgi ieuanc?"

"Na fedraf, my lord, ddim dweyd hynny yn fanwl. Byddai yn drueni creulawn hanner newynu ci ieuanc. Os caiff ei gadw yn dda, costia gymaint a chadw mochyn; ac y mae y gofal o gadw ci ieuanc yn rhywbeth. Y mae helgi ieuanc cryf gwresog weithiau yn bur chwareus, braidd yn rhy chwareus ar adeg yr ŵyn bach; ac y mae yn anhawdd iawn gennyf feddwl am gi ieuanc wrth ei gadwyn ddydd a nos, ac edrych arno yn neidio o'm deutu gan ymbil arnaf â'i wên, ac â'i ddeigryn, ac â'i lygaid, ac â'i ochenaid, am ei ollwng yn rhydd o'i gadwyn i gael rhoddi mymryn bach o dro gyda mi drwy y coed a'r caeau."

"Ond, John, wyt ti yn golygu fod ein game ni, sef ein hadar a'n hysgyfarnogod ni, yn peri colled i'r tenantiaid?"

"Byddai yn well gennyf, my lord, beidio ateb y gofyniad yna."

"Yn enw dyn, John, pam?"

"Am nad yw y tenant byth ar ei ennill wrthsiarad ar bwnc fel yna."

"Twt, twt, John; yr oeddwn i wedi clywed dy