Tudalen:Gwaith S.R.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod di bob amser yn barod i ddweyd dy feddwl yn eglur a didderbynwyneb ar bob pwnc. Y mae fy ngofyniad i yn un digon dealladwy—A ydyw ein hysgyfarnogod a'n hadar ni yn achosi colled i'n tenantiaid?"

"Wel, ydynt, my lord, y maent; y maent yn sicr. Y mae y tenant yn cael rhy fach yny dyddiau yma am besgi beef a mutton; ac nid yw yn cael dim am besgi cwningod ac ysgyfarnogod, ond rhyw ychydig o wenwyn ac o ddrwg ewyllys yn awr a phryd arall. Ni chefais i ddim cymaint o golled oddiwrth game ag a gafodd rhai tenantiaid; ond mi wn i am rai mannau lle y mae game yn cael brasder y porfeydd, a defnydd bara y tylwyth. Dyna'r gwir, my lord; ond yr wyf yn ofni fy mod yn eich digio wrth ei ddweyd."

"Nac wyt yn wir, John, nac wyt yn wir. Paid a meddwl fy mod wedi tramgwyddo o herwydd yr hyn a ddywedaist heddyw. Da iawn gennyf fy mod wedi cael cyfle i glywed dy farn a'th deimlad am y pethau yma. Byddai yn burion peth i ni gael adegau mynychach i glywed ein tenantiaid yn adrodd tipyn o'u helyntion; ac yn wir yr wyf fi bron iawn a blino ar bryder a rhwysg a rhodres bywyd uchel cyhoeddus, a rhyw ffurf—ddefodau swyddogol diddarfod. Yr wyf yn bwriadu edrych i mewn dipyn manylach rhagllaw i amgylchiadau fy etifeddiaeth, ac i gyfleusderau a chysuron y rhai sydd yn byw ac yn llafurio danaf. Y mae rhyw ddyledswyddau yn perthyn i bob meddiannau. Y mae rhyw rwymedigaethau yn nglŷn â phob eiddo; ac yn wir yr wyf fi am wneuthur mwy o hyn allan tuag at gynorthwyo fy nhenantiaid ymdrechgar. Yr wyf yn ofni yn fawr; ac yn wir, yr wyf yn gorfod hollol gredu