Tudalen:Gwaith S.R.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

medrem ddyfod i ryw gytundeb yn eu hachos. Byddai yn ofidus gennyf golli y fath denantiaid."

"Yr wyf yn ofni, my lord, os gwnawn blygu i ostwng y rhent iddynt hwy, y deuwn ni i ddyryswch diderfyn gyda thenantiaid eraill."

"Wel, dichon y dylem ni adystyried achos yr holl denantiaid, ac y dylem gymeryd rhyw sylw neillduol o'r rhai sydd wedi gwario a llafurio fwyaf mewn gwelliantau."

"Na, yn wir, nid yn awr, my lord, os gallwn mewn modd yn y byd osgoi hynny. Buasai yn dda iawn pe buasai mwy o ystyriaeth ac o bwyll yn bod yn yr amser a aeth heibio, a phe buasai mwy o ymchwiliad yn cael ei wneyd i draul a llafur tenantiaid mewn gwelliantau yn amserau rhai o'r prisiadau a wnaethpwyd yn y blynyddoedd a aethant heibio,—ond nis gallwn ni ddim galw yn ol yn awr yr adegau hynny. Y mae'r camgymeriadau a wnaethpwyd yn awr yn hen. Y maent yn hen bethau wedi myned heibio. Nid ellir dim eu galw yn ol yn awr. Y mae yn rhy ddiweddar yn awr i feddwl am eu hadystyried. Y mae yr ymwthio am ffermydd yn parhau o hyd, yn enwedig yr ymwthio am y ffermydd ag ydynt mewn trefn weddol o dda; ac yn wir, nid wyf fi ddim yn meddwl, pe baem ni yn gostwng, ac yn gostwng llawer i'r Carefuls, y gofynnent byth eto am Gilhaul Uchaf. Y mae cryn ysbryd ymsymud ac ymfudo yn awr yn y wlad. Nis gwn yn sicr beth ddaw o honi. Mae rhai tenantiaid yn dechreu myned braidd yn ystyfnig, ac yn wir weithiau yn dafodog."

"Ydych chwi wedi addaw Cilhaul i ryw un?"

"Na, nac ydwyf, my lord, ddim wedi ei haddaw; ond yr ydwyf, my lord, bron cystal a