Tudalen:Gwaith S.R.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod wedi ei haddaw i Mr. a Mrs. Jacob Highmind. Y maent yn bobl ieuainc bywiog, boneddigaidd, gwetlhgar, diolchgar, yn geraint i deuluoedd Eglwysig, o egwyddorion ystwyth, plygadwy, conserva—toriaidd. Y mae ganddynt ddigon o arian at eu llaw, ac y maent yn debyg o drin yn dda ragorol, mewn dull fydd yn enw ac yn elw i'r estate: a'r hyn sydd o braidd fwy pwys na dim ydyw, y cawn ni glywed yn ddistaw o bryd i bryd yr oll fydd yn cael ei ddweyd a'i wneyd yn yr ardal. Gallaf sicrhau i chwi, my lord, fod yr Highminds yn bobl barchus iawn. Y maent yn perthyn dipyn i deulu dylanwadol y Sliminds. Yr wyf yn addef fod y Carefuls yn bobl ddiwyd, geirwir, ymdrechgar, cymydogol; ond y maent yn GAPELWYR pur dynion."

"Wel, beth er hynny, yr oedd eu hynafiaid yn gapelwyr tynion, ond yr oeddynt yn denantiaid rhagotol."

"Ie, dichon eu bod, my lord, ond nid oedd y tadau ddim mor ystyfnig, ddim yn agos mor dynion, a'r bobl yma. Nid yw y bobl yma ddim yn myned i'r Eglwys hyd yn nod a'r ŵyl y Groglith, nac ar Sul y Pasg, nac ar ddydd lau y Dyrchafael, nac ar ddydd Nadolig ein Harglwydd, na dydd puredigaeth y fendigedig; forwyn, na dydd y santeiddlan wirioniaid, na dydd cydfrad y Papistiaid, na dydd merthyrolaeth y brenin Siarles, na dydd adferiad y brenhinol deulu, na dydd St. Bartholomeus, na dydd St. Andreas, nac un dydd gŵyl arall."

"Da iawn genyf eich bod chwi a'm stewardiaid eraill yn meddwl mor barchus am ordinhadau crefydd, ac yn dwyn y fath sel dros yr Eglwys. Diau eich bod yn cael ymgeledd gwerthfawr i'ch