Tudalen:Gwaith S.R.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyflwr ar ei gwyliau santaidd. Attolwg, a fuoch chwi yn yr Eglwys ar y gwyliau a enwasoch?"

"Beth, my lord, ddarfu i chwi ofyn yn awr?"

"Gofyn a fuoch chwi yn yr Eglwys ar ŵyl y Groglith, ac ar ŵyl y Pasg?"

"Y Groglith a'r Pasg ydych chwi yn ddweyd, my lord?"

"Wel, ïe, y Groglïth a'r Pasg. A fuoch chwi yn yr Eglwys y dyddiau hynny?"

"Y Groglith a'r Pasg! jaist,—gadewch i mi gofio? Yn—yn—yn yr Eglwys;—naddo, jaist, my lord, darfu i mi ddarllen y llithiau a'r gweddiau gartref foreu Sul y Pasg; ac yr oedd acw dipyn o'r tannau ac o'r dawns gan y bobl ieuainc acw ddydd y Groglith; ac yr oedd eu mam am i mi aros gartref gyda hwy."

"Wel, fuoch chwi yn yr Eglwys ŵyl y Dyrchafael?"

"Yn wir, my lord, y mae hynny yn rhy anhawdd i mi gofio yn awr."

"Wel, fuoch chwi yn yr Eglwys y Sul diweddaf?"

"Y Sul diweddaf—aroswch chwi, pryd yr oedd hynny hefyd;—na, jaist, my lord, yr oeddwn i yn bur gwla gan gur yn fy mhen ar ol cinio lled hwyr y dydd Sadwrn o'r blaen. Yn wir—ionedd—i, my lord, yr oeddwn i wedi hollol fwriadu myned i'r biegeth fore gŵyl merthyrolaeth Sant Siarles, oblegid yr oeddwn i am gael clywed pregeth yn iawn ar y testun hynny; ond yr oedd hi mor ofnadwy o oer, fel y gwyddoch chwi, yn niwedd Ionawr, fel y buasai yn ddigon am fywyd undyn i fyned i'n Heglwys ni y bore hwnnw. Yr wyf fi, my lord, yn ceisio myned i'r Eglwys bob amser