wr o argyhoeddiadau cryfion, felly cymerodd ran yng ngwrthdystiad ei oes yn erbyn coegni a rhagrith yr eglwyswr, a chydymdeimlodd a Syr John Oldcastle. Ond nid Syr John ddylanwadodd ar y bardd, gan na ymunodd ef â'r mudiad hyd 1410, ac yr oedd y bardd wedi hen ddatgan ei argyhoeddiadau cyn hynny. Y mae'n llawer mwy tebygol taw efe ddylanwadodd ar Syr John—yr oedd yn wr o gyrhaeddiadau uwch a gwell na'r Lolard—ac yn hynach dyn.
Nid ydyw fawr gwahaniaeth ai yng ngwaith Rhys Goch Eryri ynte yng ngwaith Sion Cent y cawn y mynegiant cyntaf o gyfriniaeth y canol oesau. Amlwg ydyw fod yr athroniaeth hynod honno elwir y "cabala" yn wybyddus iddo—y ddysgeidiaeth ryfedd geisiai "brofi cymaint, drwy ryw gyfrin ystyron llythrenau'r wyddor, a phethau tebyg. Nid oes angen son am oferedd yr honiadau, na'r "profion" dyddorol. Ond ni ddylem anghofio y gyfriniaeth arall y gyfriniaeth uchel honno sydd ag apel parhaus i'r meddylgar drwy'r oesau—y ddolen anesboniadwy sydd rhyngom a'r ysbrydol. Yn ei ddatganiad o hyn, ac o'i wladgarwch cawn acen uchaf athrylith y bardd.
Os ydyw enwau yn brawf, yr oedd Sion Cent yn wr hyddysg iawn, ac os ydyw cyfeiriadau yn sail, yr oedd yn adnabyddus a llên Roeg ac felly ymhell o flaen ei gyfoedion. Dyma achos arall gododd amryfusedd, gan fod dau o'r un enw, a'r ddau yn awduron. Credaf y dylid priodoli y llyfrau Lladin i'r brawd Llwyd, ac i'r bardd y llyfrau Cymreig. Heblaw y farddoniaeth sydd yma, dywedir iddo ysgrifenu gramadeg, Araeth y Tri Brawd, chwedlau, traethawd ar farddas; hefyd iddo