III.
YMOFYN YR HEN WYR GYNT.
UN fodd yw'r byd, cyngyd cêl,
A phaentwr delwau â phwyntel
Yn paentiaw delwau lawer,
A llu o saint a lliw ser.
Fal hudol a'i fol hoewdew
Yn bwrw hud iangwr glud glew,
Dangos a wna da diddim
Dwys dal lle nad oes dim.
Felly'r byd hwn, gwn ganwaith,
Ond hud a lliw nid gwiw gwaith.
Mae'r budd oll, mawr bu dwyllwr?
Mae Addaf fu gyntaf gwr?
Mae Sesar a mae Farsil?
Mae feirdd Ewropia; mae fil?
Alecsander a dderyw,
Ector, Arthur, eglur yw.
Mae Gwenhwyfar gain hoewfedd,
Merch Gogran gawr, gwawr i gwedd?
Ar sidan ares ydyw,
A'r gwallt yn llawn perls aur gwiw.
Mae Tegfedd, ryfedd yr hawg,
Cu ferch Owain Cyfeiliawg?
Mae fun arall fain wryd
O Ffrainc oedd decaf i phryd?
Mae Herod greulon honnaid?
Mae Siarlymaen o'r blaen blaid?
Mae Owain, iôr archfain oedd,
A Risiart frenin yr oesoedd?
Mae'r haelion bobl mawr helynt?
Mae'r gwyr da fu i Gymru gynt?
Mae'r perchen tai, mae'r parchau,
Yn fab a welais yn fau?