Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Sion Cent.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIV.

Y GROG YM MERTHYR.

(CYWYDD Y DIODDEFAINT).

Y GROG hualog hoelion,
Gwryd fraen agored fron,
Merthyr, benadur ydwyd,
Prynwr a noddwr yr wyd;
Prynaist o uffern werin,
Ryddhau yn eneidau in.
Duw Gwener,[1] drwy bryder brad,
Ar y pren mawr fu'r pryniad;
Nid ystyr myrdd dostur maint,
Duw Ddofydd, dy ddioddefaint;
Pan y'th alwyd i'th holi,
I'th rym tost y'th rwymwyd ti,
Wrth biler, fy aur-Nêr wyd,
Waith ysgars, y'th ysgwrswyd;
A chwedy'n llym, drwy rym draw,
Duw, er amarch, dy rwymaw,
Dy roi i eistau yn dristawr
Ar y garn, gwedy'r farn fawr.
Gwisgwyd y'th iad, ddeiliadaeth,
Ddrain llymon yn goron gaeth;
A'th yrru gyda'th arwain
Ar y groes, mur grisiau main;
Cytuno dy hoelio'n hawdd,
Ar un pren, Un a'n prynnawdd;
Yno dy ladd, yn Duw lwyd,
A gwaew'r ffon y gorffennwyd;

  1. Dydd. Duw Gwener-dydd Gwener. Cym. Duwsul a duwllyn.