Tudalen:Gwaith Thomas Griffiths CyK.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

MAB hynaf Edward a Margaret Griffiths, Rhos Fawr, Meifod,—wedi hynny Cefn Da, Cegidfa,—oedd Thomas Griffiths. Ganwyd ef ym Medi, 1776. Yr oedd yn wr ieuanc hawddgar a thirion, ac ymhoffai pawb ynddo. Yr oedd o natur ddwys a meddylgar, a'i fryd ar wneyd daioni.

Hydref 10, 1804, priododd Ann Thomas,—erbyn hyn yn ferch ieuanc amddifad,—ac aeth ati i fyw i Ddolwar Fach. Wedi colli ei briod, gadawodd Ddolwar ym Mai, 1806, a daeth at ei fam i'r Ceunant, Meifod. Wedi ymweled â bedd ei wraig, meddir, y canodd ei emyn,—

Mewn hiraeth angerddol am dani, ac mewn gwaith selog gyda'r Ysgol Sul, y treuliodd weddill byrr ei oes. Bu farw yn 1808, a chladdwyd ef ym Meifod. Ysgrifennwyd bywgraffiad iddo gan John Hughes.

Cyhoeddwyd ei emynnau gan Erfyl yn 1817; codir hwy i'r dalennau sy'n dilyn o argraffiad Morris Davies.

OWEN M. EDWARDS.