Tudalen:Gwaith Thomas Griffiths CyK.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

THOMAS GRIFFITHS.

—————————————————

I.

MAE myrdd o ryfeddodau
Yn mherson Iesu Grist,
Rhodd lawer gwledd i'm henaid
Pan oeddwn fwyaf trist;
Cân, f'enaid, am ei gariad,
Ac hefyd am ei ras,
Sy'n maddeu ac yn clirio
Y beiau mwya i maes.

II.

Efengyl Crist sy'n galw
Pob dyn i 'difarhau,
Gan gynnyg pardwn iddynt
Er cymmaint yw eu bai;
Ac oni lwydda'r alwad,
Gwybyddwch hyn dros Grist,
Y deuwch chwithau i alw,
A Duw heb roddi clust.


III.

Rwy'n cael arwyddion amlwg
Mai 'madaw wnaf cyn hir,
Er cystal yw eich cwmni
Gan natur yma'n wir;
A'ch gadael chwithau yma
I gael y fraint yn hwy
O ymladd gyda'r fyddin
Dros lwyddiant marwol glwy.