Daeth y chwechfed dydd—a'i weithredoedd,
A difyr oedd yr hyfryd foreuddydd.
O forau anarferol!—dihunai
Pob dawn peroriaethol,
Yn gytun heb un yn ol,
O gân i Dduw'n blygeiniol.
Parai'r Duw mawr ddistawrwydd,—ataliwyd
Pob telyn yn ebrwydd,
Pawb yn uno i wrando'n rhwydd.
Ar hirglod air yr ARGLWYDD ;—
Dyrodded daear heddyw,
O bob creaduriaid byw,
Oll yn eu rhyw, llanwer hon.
A'r hiliawg amrywiolion—
Yr ymlusgiaid, anifeiliaid,
Yn fywiolion;
A bwystfilod, lluon hynod
Oll yn union."
Ar hyn y ddaear hynod
Wisgai newydd newydd nôd,
Ger bron, agorai ei bru
Yn ddiatal o'r ddeutu;
A'r prysur greaduriaid
Yn codi o honi'n haid.
Rhai oedd yn chwarau'n rhyddion iach yrroedd;
Ac ai degau i rodio'r coedwigoedd;
Rhai ar eu torrau yn mynd drwy'r tiroedd ;
Ac eres lywiai rhai tua'r corsleoedd;
Ai rhyw lu i'r pawrleoedd,—a heidiau
Am eu haneddau, tua'r mynyddoedd.
Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/33
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon