Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nau neb o honynt erioed. Yr oeddynt yn llygadrythu arnaf, gan sylwi yn fanwl ar fy ym— ddanghosiad o wadn fy esgid hyd goryn fy het. Ym mhlith y pethau hynod yr oedd cadwyn fy watch. Yr oedd y gwr wedi gweled oriadur unwaith neu ddwy, a gofynnodd i mi ddangos yr eiddof fi i'r teulu. Tynnais hi allan yn siriol, ac ni fu mwy o synnu yn y Great Exhibition, nag oedd yn y Ceunant y bore hwnnw. Yr oeddynt ymron a gwallgofi mewn syndod pan welsant y peirianwaith mewnol. Ymdrechais egluro iddynt pa fodd yr oedd yn gweithio, nes oedd eu hwynebau yn cyfnewid yn wir, yr wyf yn meddwl eu bod yn ymylu ar sirioldeb cyn i mi roddi yr oriadur yn fy llogell yn ol. Yna gofynnodd Siôn i mi yn llym,—"Ai chi di'r dyn sy'n camu pennau pobol yn y capel isa?" Wel, gwelais fod yn rhaid barfu'r llew; dywedais nad oeddwn yn disgwyl fod yno neb yn fy adnabod; ond gan ei fod wedi gofyn y cwestiwn i mi, nad oeddwn an wadu fy swydd, ond nad oeddwn yn arfer camu pennau pobl—fod fy mhen i mor wastad a'i ben yntau, ac y dymunwn i bennau fy mhobl fod felly. "Na wiw i chi wadu," ebe Siôn, "mi glywais eich bod yn camu eu pennau, ac yn gwneud i'r bobl eich cadw am hynny; ydi hynny ddim yn wir?" "Ni wiw i chwi na minnau," ebe fi, "gredu pob peth a glywn yn y byd yma. Yr oeddwn wedi clywed cyn dyfod yma heddyw mai rhyw anifail direswm o ddyn oeddych chwi, ac na fedrech siarad nac ymddwyn fel dyn; ac mi a ddaethum yma heddyw er mwyn eich gweled a barnu drosof fy hun. Yr wyf fi yn eich gweled yn ddyn clyfar iawn." Gwelais mewn eiliad fod y