Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i chwi y newydd gwir alarus fod ein rhagorol Catherine. Hughes wedi ymadael a holl drafferthion y byd hwn. Bu farw wythnos i heddyw mewn gwir ddiogel obaith. Yr oedd ei meistr a minnau a'n plant wrth ochr ei gwely pan oedd yn tynu ei hanadliadau olaf; a byth, byth, ni anghofiwn yr olygfa. Os gwelais y nefoedd ar y ddaear erioed, yno y gwelais hi. Y mae ei marwolaeth orfoledd. us wedi effeithio yn rhyfeddol ar ddwy o'm merched, y rhai a ddygwyd mor ragluniaethol i weled y prawf hwn o wirionedd crefydd. Claddwyd hi yn ddisoremoni: oherwydd ni oddefa yr awdurdodau i ni gael gweinyddiad Protestanaidd wrth gladdu ein meirw, ac ni wnant hwythau weinyddu uwchben heretic! Ni chaniateir i ni godi beddadail iddi. Y cwbl a ganiateir yw gosod carreg ar ei phen a dwy lythyren arni, "C. H." Bu adeg ar fy oes pan y buaswn yn cyfrif seremoni gwag yn help i sicrhau iachawdwriaeth, ond yr wyf heddyw yn teimlo yn wahanol. Darfu i ni fel teulu dynghedu ein gilydd uwchben gweddillion marwol Catherine, na ddywedem air byth o ddiystyrrwch ar grefydd yr Anghydffurfwyr. Y mae Bank-book Catherine a'i hewyllys ym meddiant ei meistr, yr hwn a gyflwyna i'w theulu, drwy eich llaw chwi, tuag wyth cant o bunnau, &c.

Y mae adgofio bywyd a marwolaeth y chwaer ffyddlawn hon yn fy arwain i annerch dau ddosbarth.

Wasanaethyddion! byddwch ffyddlawn a gonest. Cyfrifwch yn ddyledswydd arnoch hysbysu pob anonestrwydd a thwyll a weloch yn eich cydwasanaethwyr. Plygwch i lais eich cydwybodau, a glynwch wrth eich crefydd ym mhob amgylchiad. "Dyrchafa di hi, a hi a'th ddyrchafa di."

Foneddigion! (ond ffolineb yw i mi ddis- gwyl y gwelant hwy hyn o sylw; ond pe cawn eu clust, dywedwn wrthynt), Edrychwch yn fanwl ar ol eich sefydliadau. Ymaith â'r wag dybiaeth na oddef urddas i foneddiges edrych i'r gegin, y servants' hall, y pantry, a'r seler. Y mae eich diofalwch chwi wedi temtio miloedd