Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ieuenctid i lwybrau anonestrwydd a thwyll. Yn wir, prin y gellwch feio eich gwasanaeth— yddion am eich twyllo, yr ydych yn gosod y brofedigaeth ger eu bron, ac nid yw yn rhyfedd fod cynifer o honoch yn myned yn fethdalwyr, oblegid y servants' hall, ac nid y drawing room, sydd yn dinistrio llawer o honoch.

BEDD Y CRISTION.

BEDDARGRAFF MR. JOHN JONES, TYNEWYDD, GANLLWYD.

CRISTION o galon ddigel—oedd Ioan
Trwy'i Dduw daeth yn uchel:
Ffodd y sant, llawn ffydd a sel,
Fry o'r ing i fro'r angel.

JOHN.

NI ddaw John eto'n ol atom,—ei Dduw
Fynnai'i ddwyn oddiarnom;
Tewi raid dan y loes drom,
A ffrwynaw'r cyffro ynnom.

Bu ef i ni'n fab ufudd—a'i addfed
Gynheddfau'n ysblenydd;
Mawr oedd ef ym morau'i ddydd,
A'i ddawn fel hen ddiwinydd

WILLIAM MARC.

UN fu'n gryf yn ei grefydd—addolwr
Oedd William Marc beunydd;
Rhodiodd ef, ar hyd ei ddydd,
Yn llaw Duw drwy'i holl dywydd.