Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiareb yng ngenau y wlad fel "y pennaf o bechaduriaid." Nid oedd nemawr bechod nad oedd yn euog o hono. Yr oedd yn herw-heliwr, yn feddwyn, ac yn ymladdwr. Yr oedd ei iaith yn ddychrynllyd, a chiliai pawb o'i ffordd. Yr oedd o dymherau creulawn; a chan nad oedd wedi cymeryd trafferth i ddisgyblu ei deimladau, cyfrifid ef yn fflangell ar yr ardal. Gwae oedd i'r hwn a wrthodai fwyd na diod na dim arall iddo ar goel, a dwbl wae oedd i'r hwn a feiddiai ofyn tâl iddo am ddim a gai. Yr oedd wedi priodi pan ddaethum yma i fyw, ac wedi hanner torri calon ei wraig, druan, yr hon oedd yn un o'r merched mwyaf diwyd, glanwedd, a medrus yn y wlad. Y mae yn syndod fel y mae dyhirod o ddynion yn gallu hudo merched o'r fath oreu i'w priodi. Y mae gan bob cymydogaeth engreifftiau galarus o hyn; pan y gwelir dynion da, diwyd, yn fynych yn cael eu rhwymo hyd angeu wrth greaduriaid afrywiog, diles, a diog. Barnem ni y buasai yn llawer gwell pe rhwymesid yr afrywiogion gyda'u gilydd, i ymladd allan eu brwydrau, tra y caffai pobl ddiwyd a rhinweddol fwynhau cymdeithas eu gilydd mewn tawelwch—hiliogaeth Cain, a hiliogaeth Seth, ar wahan; ond, fel arall yn fynych y gwelir pethau yn y byd annhrefnus hwn. Byddai gwraig Harri, druan, yn fynych o dan ei chlwyfau, er ei bod yn llafurio yn galed i gadw ei thy, a bwydo y diogyn meddw a ddylasai ei chynnal. Hi a ymollyngodd o'r diwedd dan bwys tlodi, erledigaeth, a digalondid, nes ymddieithrio o bob addoldy. Ni roddai efe gymaint o barch i'r Sabbath a newid ei wisg, pan fyddai ganddo ail wisg i'w rhoddi am