Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dano. Efe oedd y banerwr ym myddin uffern. Aeth rhai o'i gymydogion mor bell a dymuno iddo ddyfod i'r ddalfa, a chael ei alltudio i rywle.

Bu farw plentyn i Harri, a daeth ataf i ofyn a allasai gael lle ym mynwent y capel i'w gladdu. Yr oedd hynny o dynerwch ag oedd yn ei natur yn canolbwyntio yn y plentyn hwnnw, a danghosai gymaint o deimlad fel y parhaodd er syndod i bawb yn sobr o ddydd marwolaeth hyd ddydd claddedigaeth ei fachgen. Pan oeddwn yn annerch y gynulleidfa cyn cau y bedd, dywedais fod Duw wedi taro y parod er rhybudd i'r amharod. Ceisiais ddangos tynerwch Duw yn ei oruchwyliaethau, ac mor anhawdd oedd ganddo roddi pechadur i fyny. Yr oedd y pethau hyn yn bethau newydd iddo ef, druan. Yr oedd wedi clywed am Dduw yn gwahardd yr hyn yr oedd efe yn ei garu, ac yn cosbi troseddwyr ei gyfraith; o ganlyniad, yr oedd yn gas ganddo yr Arglwydd, ac yr oedd yn credu fod Duw yn elyn iddo yntau. Ond ar adeg y claddedigaeth, daeth yr efengyl i gyffyrddiad a'i feddwl y tro cyntaf, a gwelwyd arwyddion amlwg ei fod dan ddylanwad ei deimlad, neu ei deimlad dan ddylanwad rhywbeth i raddau pell. Yr oedd y claddedigaeth ar ddydd Sadwrn, a daeth y teulu i'r capel bore y dydd canlynol; ac, er syndod i bawb, daethant yno yn yr hwyr. Sylwodd amryw o'n cyfeillion fod ffrwd o ddagrau ar bob grudd i Harri; ond ni ddychymygasant fod yno ddim mwy na dagrau natur, yn tarddu o hiraeth am y marw. Yr oedd gennym gyfarfod gweddi misol nos Lun, a daeth