Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harri yno yn berffaith sobr! Yr oedd tipyn o sibrwd yn ei gylch erbyn hyn. Gobeithiai rhai y gallai fod rhyw ddifrifoldeb ynddo, ac y gallai droi allan yn rhywbeth. Nos Iau yr oedd un, sydd heddyw yn hen frawd doniol, yn dyfod heibio i ni yn wr ieuanc penddu. Pregethodd yn dda dros ben. Yr oedd ei lais mor nerthol ac ystwyth ag y gall pregethwr ddymuno i'w lais fod. Ond yr oedd y gynull eidfa yn galed. Gofynnai y pregethwr pa le yr oedd yr hen "fynd" oedd yn yr oedfaon? Holai am "amenau" cynnes y dyddiau gynt. Ond ychydig o fywyd oedd yn y lle. Ond, pan yn arwain y gynulleidfa yn y diwedd at "waed y taenelliad," gwaeddodd Harri allan,—Diolch byth! mae gobaith i minnau!" syrthiodd ar y llawr yn gelain farw, a gwefreiddiwyd y gynulleidfa drwyddi, a rhoes ail gychwyniad yn y gwersyll. Daeth Harri i'r gyfeillach. Yr oedd llawer o broffwydo ei dynged, ac o ragfynegu ei gwymp. Ond, er syndod i bawb, dal a wnaeth; ac yn fuan iawn symudodd ymaith bob amheuaeth oddiar feddwl yr ardal gyda golwg ar wirioneddolrwydd ei ddychweliad. Bu yn galed iawn arno wrth fyned drwodd; ond cafodd angorfa dawel, ddiogel i'w enaid. Efe a ddysgodd ddarllen yn lled fuan, ac yr oedd blas neillduol ar bob peth a ddywedai yn y gyfeillach. Daeth yn wr da, yn gymydog da, yn dad da, yn weithiwr da; mewn gair, daeth yn grefyddwr da, ac y mae hynny yn cynnwys pob peth. Magodd dyaid o blant iachus, diwyd a llwyddiannus, y rhai a fuont yn gynhorthwy iddo pan ballodd ei nerth. Ymwared oddiwrth yr Arglwydd oedd ei ddyfodiad i'n plith ar yr amser y trodd atom.