Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Adgyweiriwyd telyn llawer hen Gristion, a chwanegwyd amryw at rif yr eglwys.

Yr oedd tipyn o'r hen ddyn i'w ganfod ynddo ar brydiau pan gynhyrfid ei dymer. Digwyddodd un tro pan oedd Mr.—— wedi dyfod i'r capel yn feddw. Yr oedd Mr.—— yn un o'r rhai hynny na ddeuai byth i gapel pan fyddai yn sobr. Yr oedd ganddo biano yn y ty, a meirch teg i'w marchogaeth. Yr oedd crefydd yn rhy gaeth at ei chwaeth ef, ac nid oedd efe am ddarostwng ei hun drwy ymddangos mewn addoldy Ymneillduol. Ond pan y digwyddai ddychwelyd o'r dref o dan effeithiau diod, gwelais ef yn troi i mewn gyda'r dyrfa. Ymddygai weithiau yn lled dda, bryd arall ymddangosai fel un yn teimlo y gallai wneud fel y mynasai mewn capel. Yr wyf yn cofio un tro, pan oedd dau wr dieithr yn pregethu gyda ni, i'r gŵr hwnnw droi i mewn i'r oedfa ar ei ffordd o'r farchnad. Yr oedd wedi yfed dipyn yn drymach nag arferol, a dechreuodd siarad yn lled uchel nes aflonyddu y pregethwr. Erfyniai y rhai agosaf ato ar iddo dewi, ond waeth-waeth yr oedd yn myned. Anfonais Harri ato i erfyn arno naill ai i fod yn llonydd, neu i fyned allan. Wedi derbyn y genadwri, dechreuodd lefaru fel gŵr mawr. Codai ei lais yn uchel, a siaradai yn arddull crach-yswain yn dri chwarter meddw. "Os ydych yn myned i siarad yn y dull yna, Mr.—— rhaid i chwi fyned allan," ebai Harri. "Ple mae'r gŵr fedr fy nhroi i allan?" ebe yntau. Yr oedd hynny yn ormod i natur ein gwron ddal. Gafaelodd yn dynn yn ei ysgwydd—gwthiodd ef drwy ganol y bobl— drwy y drws—i'r awyr agored. Wedi ei gael