O swn y gynulleidfa, ysgydwodd ef yn lled haelionus, a rhoddes iddo brawf fod yr un nerth yng ngewynau y dyn ag oedd pan y crynai ymladdwyr y wlad gan ei ofn. Un o'r dodrefn a yspeiliwyd oddiar y cryf arfog, ar ol ei rwymo, oedd y nerth hwnnw.
Yr oedd un linell brydferth iawn yng nghymeriad y dyn hwnnw, yn yr hyn yr oedd yn. rhagori ar lawer o'r pentewynion. Y mae rhai o'r dosbarth hwnnw yn caru gwneud arddanghosiad o honynt eu hunain—mynnant fod yn llewod pob cymdeithas. Ceir y rhai hyn yn son am eu hen orchestion gynteu hymladdfeydd, eu meddwdod, a'u campaugyda mwy o hyfrydwch na gweddeidddra. Ar y lleiaf o swn calon ddrylliog "ac"ysbryd cystuddiedig." Ond ymddangosai Harri, druan, yn gwbl wahanol. Yr oedd son am yr hen bethau " yn taenu cwmwl dros ei wynepryd. Dywed traddodiad y byddai Pedr yn torri i wylo bob tro y clywai geiliog yn canu, ar ol iddo gwympo. Pa faint bynnag o wir sydd yn hynny, yr ydym yn sicr y byddai y brawd duw iol sydd yn awr dan ein sylw yn tristâu pan glywai son am feddwdod ac ymladdau, yn neill duol pan glywai am benteulu yn greulon at ei wraig a'i blant. Y mae yn hyfrydwch i enaid fod yn dyst o'r fath waith effeithiol ar gyflwr un pechadur. Y mae gweled un pentewyn wedi ei achub o'r tân yn llawnach o ddyddordeb i gyfeillion y Gwaredwr na holl exhibitions y ddaear.