Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y CEDYRN.[1]
"PA FODD Y CWYMРODD Y CEDYRN?"

I.
A GWYMPODD y cedyrn? Atebed y dagrau
Sy'n gwlychu aelwydydd ein trymllyd aneddau.
Do, cwympodd y cedyrn fu'n ysgwyd y ddaear;
Agorwyd ffynhonnau cuddiedig o alar.
Mae Cymru anwylaf fel dyffryn Megido;
Colofnau'i gogoniant a welir yn cwympo.


  1. Y rhai gwympodd yn 1852, sef Ieuan Gwynedd (32 oed), Morgan Howells (38), Dafydd Rhys Stephan (45), Tegid (60).
    [Ganwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) ym Mryn Tynoriad, ar ochr Dolgellau i'r Garneddwen, yn sir Feirionnydd, yn 1820. Cafodd fam o fysg disgyblion Dr. George Lewis, ac etifeddodd ei hynni cydwybodol ac anorchfygol. O ysgol Marton aeth i Goleg Aberhonddu, ac oddiyno yn weinidog i Dredegar. Collodd ei iechyd, a throdd at yr ysgrifell. Golygodd y Principality, yr Adolygydd, a'r Gymraes. Bu'n farw yn 32 oed; huna yn y Groes Wen.
    Ganwyd Morgan Howells yn 1794, ym mhlwy St. Nicholas, Morgannwg. Pan yn un ar bymtheg oed daeth yn brentis saer i Gasnewydd. Daeth yn enwog fel pregethwr oherwydd ei ddawn rhyfedd, a'i athrylith droiog wyllt.
    Ganwyd David Rhys Stephen ym Merthyr yn 1807. Yn 1827 aeth i Goleg y Fenni, yn weinidog i Abertawe yn 1830, yn weinidog Seisnig i Gasnewydd yn 1815. Priododd ferch Gomer. Pregethai ac ysgrifennai'n rymus.
    Un o blant y Bala oedd John Jones (Tegid), anwyd yn 1792. Yn Rhydychen trodd ei feddwl at Gymru. Lewis Glyn Cothi, y Beibl Cymraeg, &c. Treuliodd ddiwedd ei oes yn Nanhyfer, lle'r hun.
    Cyhoeddwyd gan E. Williams a'i Mab, Aberystwyth, yn 1853.]