Tudalen:Gwaith barddonol Islwyn - 1832-1878 (IA gwaithbarddonoli00islw).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

RHAGYMADRODD

Fy nyledswydd i oedd rhoddi i'r cyhoedd holl waith barddonol Islwyn allwn gael; rhwng y dyfodol a phrofi faint sy'n anfarwol. Diolch, am gennad i gyhoeduli peth gyhoeddasant hwy, i'r Mri. Hughes (Caniadau Islwyn, detholion or "Ystorm," "Cymru," &c.), Mr. Gee (Marwnad Dr. Parry, 1875); Dr. I. Jones (Awdl y Nefoedd); Mr. Duncan (darnau yn y Cardiff Times).

Cyhoeddwyd hefyd yn ystod bywyd Islwyn,-Barddoniaeth. yn 1854 ("Myddfai," " Yr Iesu a Wylodd," "Yr Adgyfodiad," " Glyn Ebwy," "Acth blwyddyn heibio "); Albert Dda yu 1869; Ymweliad y Doethion (gydag " I'm Hathraw "I'r Angor") yn 1871, Marwnad David Jones yn 1871; John Jones Blaen Annerch yn 1877. Ymddanghosodd llawer o'r darnau byrion a detholion o'r darnau hwyal yn y Traelhodydd, Drysorfu, Cylchgraun, Dysgedydd, Gverinwr, Ymgeisydd, &c.; ac yng nghofnodion Eisteddfodau. Codwyd cynnwys y gyfrol hon bron i gyd o lawysgrifau Islwyn, cyclmarwyd y gwahanol lawysgrifau a'u gilydd ac à rhannau oedd wedi eu cyhoeddi, a'm hymgais oedd rhoi pob) llinell ysgrifennodd i mewn. Faint fuasai ef yn gyhoeddi nis gwn; ty biaf y bydd pob gair yn y gyfrol yn werthfawr i Gymru. Trefn damwain yw'r drefn. Ond rhoddir rhestr o'r gweithiau y gwydilis eu hamseriad i sicrwydd, fel y gallo'r efrydydd wylio dadblygiad awen Islwyn. Dymunwn ddiolch i Mr. Daniel Davies, Dyfed, Dafydd Mor- gannwg, a lliaws o gynorthwywyr parod ereill, ac i dros bum cant o danysgrifwyr. "aahugi OWEN M. EDWARDS. Llanuwchllyn, Ionawr 1, 1897. calta 107851