Pan heliaist genhadon i faneg ein beion,
A'n troi i'r ffyrdd union yn dirion, yn daer;
Ni gausom ein clustie rhag clywed eu geirie,
Fel neidr a fydde yn fyddar.
Pan yrraist dy weision i'n gwadd ni, rai deillion,
I'th swper yn dirion, i dario'n dy lŷs.
Ni ballsom o'r dwad, ni droesom i'r farchnad,
A'n fferem, yn anllad anhapus.
Ni fynnwn mo'r manna, ni thrig e'n ein cylla,
Ni charwn ni y bara a bery byth;
Ond garlleg ac winwyn, a phanas a phompiwn,
Fel twrchod a garwn ni'n aruth.
Ni fynnwn ni o'r fengyl, sy'n ein cnoi ni mor rhugil,
Ni a drown ein gwegil at hyn lawer gwaith,
Ni chaiff hi'n ceryddu, na'n dangos na'n dysgu,
Mae'n draws yn gwrthnebu ein drygwaith.
Ni adwn ni'r Ysgrythyr reoli'n drwg natur,
Na'th gyfraith gymhesur gymhwyso mo'r traws;
Ond byw wrth ein ffansi, a'n trachwant a'n gwegi,
Heb fynnu rheoli ein drygnaws.
Gan hynny waith troedio Dy gyfraith a'i gado,
Ni aethom ar ddidro yn didranc, gwae ni;
Fel defaid a rede o'r llafur i'r ffalde,
Ar ol llanw eu bolie, i boeni.
Mae'n gloddest a'n traha, fel mawrddrwg Gomorah,
Yn llefain am wasgfa, i wasgu ar ein cest;
Ni thaw byth o'n poene, nes delo diale,
I wasgu ar ein crilie â dirwest.