YN ERBYN CONSURWYR.
Duw, mor dost y pecha Cymry,
Mewn dallineb, trwy gam-gredu,
I ddewiniaeth, swyn-gyfaredd,
Ofer goel, a'r fath anwiredd.
Gynt fe'n chwydodd Duw ni allan,
Fel y bobl o wlad Canan,
O dir Lloegr yma i'r creigydd,
Am ein gwan gred a'n gau-grefydd.
Yn awr nid gwell yw crefydd llawer,
Na'n hen deidiau gynt yn Lloeger;
Er bod 'fengyl Crist yn gyngan,
Gan bawb yn ei iaith ei hunan.
Mwy o gred sydd gan Frutaniaid,
Mewn rhyw luoedd, i ddewiniaid,
Ac i'r swynwyr a'r hudolion,
Nag sy i Grist a'i Apostolion.
Pan ddel dewin neu ryw swynwr,
Och, ni redwn at y twyllwr,
Fel y gwenyn at y gwinwydd,
I roi clust i dad y celwydd.
Beth a ddweto hwnnw o'i enau,
Er nad yw ond celwydd golau,
Ni a'i credwn fel y 'fengyl,
Ac a drown at hon ein gwegil.
Beth a ddweto Crist yn brysur,
Yn y 'fengyl wenn a 'Sgrythyr,
Ni fynn llawer cant o'r Cymry,
Ddim o'i wrando, och, na'i gredu.