Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eisiau gwrando'r 'fengyl dirion,
Eisiau credu'r gair yn ffyddlon,
Eisiau 'nabod Duw a'i allu,
Y mae'r wan-gred hon yng Nghymru.

Pe gwrandawent ar y 'Sgrythyr,
Yn condemnio'r fath hudolwyr,
Ni'u herlidiem o'r wlad allan,
Megis apostolion Satan.

Nid yw swynwyr a dewiniaid,
Ond 'spostolion y cythreuliaid,
Sydd yn hudo pobol egwan,
I buteinio ar ol Satan.

Waith bod swynwyr yn ein tynnu,
Ar ol Satan trwy wan-gredu,
Mae Duw'n erchi yn ddialaeth,
Roi'r holl swynwyr i farwolaeth.

Duw ei hun, yng nghyfraith Mosys,
Sy'n gorchymyn lladd pob rheibus,
Lladd y dewin, lladd y swynwyr,
A llabyddio'r holl gonsurwyr.

Duw sy'n gwardd i neb buteinio,
Ar ol dewin, a rhai'n swyno;
Ac yn bygwth torri'n hollol,
Bawb o'r fath o fysg ei bobol.

O bydd gŵr na gwraig o unfath,
Berchen ysbryd o ddewiniaeth,
Lleddwch hwynt, medd Duw, a chlogfaen
A'u gwaed fydd ar eu pennau hunain.

Ni fynn Duw i neb yn ddirgel,
Dynnu eu plant trwy'r tan i'r cythrel,
Nac arferu dim dewiniaeth,
Swyn, na d'rogan, nac hudoliaeth.