Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cas gan Dduw, medd geiriau'r 'Sgrythyr,
Geisio hyspysrwydd gan gonsurwyr,
Dewin, swynwr, brud, neu hudol,
Ac ymofyn a dyn marwol.

Tynnu'r plentyn trwy bren crwca,
Neu trwy'r flam ar nos Glangaua,
A'u rhoi ym mhinn y felin uchel,
Yw offrymmu plant i gythrel.

Gwael yw'r cymorth yn ei drafel,
A gaiff Cristion gan y cythrel,
Yr hwn sydd nos a dydd heb gysgu,
Bob yr awr yn ceisio'n llyncu.

Nid yw'r rhain ond rhai sy'n twyllo
Pobol ddeillion i dramgwyddo,
Ac i geisio help y cythrel,
I'w cymffwrddo yn eu trafel.

Duw sy'n erchi lladd â meini,
Duw sy'n gwrafun gwlad goleuni,
Duw sy'n taflu i'r tân uffernol,
Swynwr, dewin, brud, a hudol.

Tro, gan hynny, swynwr heibio,
Megis un sy'n ceisio mwrddro
Dy enaid bach, wrth roi esmwythder,
I'th gnawd egwan yn ei flinder.

Duw fydd dyst, a witnes cyflym,
Duw fydd farnwr tost ac awchlym,
Ar ddewiniaid ac ar swynwyr,
A'r rhai a'u credant, medd y 'Sgrythyr.

Ni chaiff swynwyr na swyn-ddynion,
Medd Sant Paul, na'r nef na'r goron;
Hwy dormentir, medd Sant Joan,
Yn y pwll a'r tân a brwmstan.