Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ahazia, brenin Juda,
A ga's farw mewn mawr boenfa,
Am ei wan-gred gynt yn danfon
At y dewin, gan dduw Ecron.

Saul am gredu'r wits o Endor,
Ac am fynd i geisio ei chyngor,
Gas ei roi i dost farwolaeth,
A rhoi i Ddafydd ei frenhiniaeth.

Tra fu Saul yn gwrando Samuel,
Ni chai swynwyr drigo'n Israel,
Nac un dewin, nac un hudol,
I ŵyrdroi a thwyllo'r bobol.

A Josias ynte'n rasol,
A lwyr dynnodd bob rhyw hudol,
Swynwyr, dewin, a ffieidd-dra,
A'r cyffelyb o Judea.

Nid oes neb a barchai'r swynwr,
Na dewiniaid, na chonsurwr;
Ond y rhai di-gred, di-grefydd,
Y mae'r diawl yn ddallu beunydd.

Os yng Nhrist ni fynn dyn gredu,
Fe ad Duw i'r diawl ei ddallu,
Ai lwyr dynnu, heb Grist'nogaeth,
I roi cred i bob gau dduwiaeth.

Y dyn fytho Duw yn wrthod,
A rydd ei gred i'r cyfryw ffregod,
Ac a red mewn blinder diriaid,
I swyno ei gorff, i ladd ei enaid.

Nid gwaeth gan y cythrel ddala
Dyn, trwy gredu'r fath fieidd-dra;
Na phe dalai ddyn trwy fwrddro,
Lladd, a llosgi, a chribddeilio.